|  Call 01495 272001  |  Email cwmcarn-vc@caerphilly.gov.uk  |      Archebwch nawr >
Aros gyda ni

Ailgysylltwch â’r byd natur yng Nghoedwig Cwmcarn

Mae Coedwig Cwmcarn wedi’i amgylchynu gan goedwigaeth a bywyd gwyllt, ac mae’n cynnig cyfle i gael egwyl heddychlon ac ymlaciol. Mae dewisiadau’n cynnwys cabanau moethus newydd, podiau glampio neu safle gwersylla traddodiadol.

 

Cabanau Moethus

Mae chwe chaban newydd bellach yn rhan o’n cynnig llety i ymwelwyr yng Nghoedwig Cwmcarn. Gyda lle cysgu ar gyfer 2 – 6 o bobl, mae’r cabanau â dodrefn wedi’u cwblhau i safon uchel iawn. Mae gan bob gegin osod ac ystafell ymolchi gyda chawod a thoiled ynghyd â theledu, gwely dwbl maint llawn ac ardal fyw gyda gwely soffa (mewn cabanau sydd â lleoedd cysgu o 4+). Mae’r drysau dwbl yn agor ar feranda â decin sydd ag ardal eistedd a golygfeydd godidog.

Deffrowch i glywed adar yn trydar ac awyr iach y goedwig o’ch cwmpas. Ymhlith y coedwigoedd mewn llecyn tawel, mae’n ddarn bach o dawelwch. Os hoffech chi rhagor o gyffro, mae’r maes chwarae antur yn agos (ond nid yn rhy agos!) ynghyd â gweithgareddau dŵr, llwybrau cerdded a beicio, Caffi’r Gigfran a’r ganolfan ymwelwyr.

Mae prisiau’n cychwyn o £252 am 3 noson yn ystod y cyfnod llai prysu.

* Llety i’w archebu dros y ffôn yn unig – 01495 272001 *

Archebwch nawr >

Codennau

Mae deg pod glampio gennym yn y goedwig. Mae ein podiau â dodrefn wedi’u haddurno’n gyfoes ac yn cynnwys gwelyau dwbl cyfforddus ynghyd ag oergell fach, tegell, hambwrdd lluniaeth, trydan a gwresogydd. Mae prisiau’n cychwyn o £58 yn ystod y cyfnod llai prysur, ac mae man cysgu o 2 oedolyn a 2 blentyn, gyda thâl ychwanegol o £6 y set o welyau bync y nos, os oes angen.

Mae podiau heb ddodrefn ar gael lle mae modd i chi ddod â’ch offer gwersylla eich hun. Mae modd dod â’r ci hefyd, gan fod pob pod heb ddodrefn yn addas i anifeiliaid! Byddwch chi’n parhau i fod yn gynnes ac yn glyd gan fod gwresogydd a chyflenwad trydan yn cael eu darparu. Mae prisiau’n cychwyn o £42 yn ystod y cyfnod llai prysur, ac mae lle cysgu ar gyfer 2 – 4 o bobl.

Archebwch nawr >

Y Maes Gwersylla

Mae caeau Cwmcarn yn wastad ac maen nhw wedi’u tirlunio a’u cynnal drwy gydol y flwyddyn ac maent ar gael i bebyll sydd â lle i hyd at chwe pherson gysgu (ffoniwch er mwyn cadarnhau). Mae defnydd o’r cyfleusterau cawod a thoiled 4 seren (yn ôl Croeso Cymru) ynghyd â safle golchi dillad, cegin ac ardal gwaredu gwastraff cemegol i gyd wedi’u cynnwys ac maen nhw o fewn cyrraedd y meysydd pebyll. Mae cysylltiad trydan ar gael am £3.50 y nos ar gyfer pob maes.

Archebwch nawr >

Carafanau a Chartrefi Modur

Mae lleiniau caled ar gael ar gyfer carafanau, cartrefi modur a faniau gwersylla. Mae defnydd llawn o’r cyfleusterau a chysylltiad trydan wedi’u cynnwys yn y pris nosweithiol.

Archebwch nawr >


Cyfleusterau’r Maes Gwersylla

Canolfan Ymwelwyr
Caffi’r Gigfran
Yn Derbyn Taliadau Cerdyn
Bloc Cawodydd
Toiledau
Cysylltiad Trydan
Gwaredu Gwastraff
Cegin
Golchdy
Parcio
  • Caerphilly County Borough Council logo
  • Natural Resources Wales