Pum Taith Gerdded wych yng Nghoedwig Cwmcarn
Mae teithiau cerdded sy’n addas i bob gallu, gan gynnwys taith llai na milltir i daith naw milltir. Mae pob un yn cynnig gwahanol olygfeydd a thirwedd sy’n cynnwys harddwch Coedwig Cwmcarn, y llyn eang a llawr y Dyffryn. Yn ystod y gwahanol dymhorau y daw fflora a ffawna gwahanol; mwynhewch Daith Gerdded Clychau’r Gog ym mis Mai pan fydd clychau’r gog yn eu blodau, neu yn yr Hydref pan fydd y dail yn newid ac yn cynnig golygfeydd a lliwiau cyferbyniol.
Mae pob un o’n teithiau cerdded wedi’u rhestru isod, a bydd mapiau a chyfarwyddiadau ar gael i’w lawrlwytho cyn bo hir.
Rhestrir pob un o’n teithiau cerdded isod ac maent ar gael i’w lawrlwytho.
Her Archwiliwr Bywyd Gwyllt Cwmcarn
Mynnwch fod yn archwiliwr bywyd gwyllt trwy ddilyn y map archwiliwr er mwyn dod o hyd i 21 o byst arbennig ar hyd y daith gerdded gylchol fer o 1.2 milltir. Galwch heibio’r Canolfan Ymwelwyr i brynu eich pecyn Archwilio (gan gynnwys creonau) a mynd ati i archwilio. Dewch o hyd i’r plac metel cudd ar bob postyn a pharuâ’r llun cywir yn y llyfryn Archwiliwr. Gwnewch rwbiad o’r plac yn eich llyfryn a symud ymlaen i ddod o hyd i’r postyn nesaf! Ar ôl ei gwblhau, gellir prynu tystysgrif Archwiliwr Bywyd Gwyllt o dderbynfa’r ganolfan ymwelwyr. Hapus yn archwilio!
Mae llyfrynnau ar gael o dderbynfa’r ganolfan ymwelwyr ar gyfer £1.50.
Taith Gerdded Twmbarlwm
Bydd y daith gerdded 2 awr hon yn eich tywys i gopa Bryngaer Oes Haearn Twmbarlwm. Ar un adreg, roedd yn ganolfan i'r Celtiaid Silwriaid a bu’n brwydro am 25 mlynedd yn erbyn Rhufain. Byddai'r bryngaer wedi'i hamddiffyn yn dda gan rhagfuriau, rhyfelwyr ar gefn ceffyl a cherbydau rhyfela cyflym. O'r copa mae golygfeydd godidog, dros Fae Caerdydd tua'r De a thuag at Fannau Brycheiniog tua'r Gogledd.
Taith Gerdded Nantcarn
Taith gerdded fer o 1 filltir er mwyn mwynhau golygfeydd a synau'r nant a'r llyn. Yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o bobl, ond mae rhai arwynebau anwastad, sy'n gallu bod yn llithrig pan fyddant yn wlyb. Mae dwy giât mochyn yn ei gwneud hi'n anodd ar gyfer cadeiriau gwthio.
Taith Gerdded 1807
Taith gerdded 9 milltir yn cychwyn o'r ganolfan ymwelwyr, sy’n cynnwys nodweddion hanesyddol, coetiroedd trawiadol a golygfeydd gwych. Mae ambell dringfa a disgynfa serth ar y daith gerdded hon, ond mae'r golygfeydd werth chweil.
Taith Gerdded Clychau’r Gog
Taith gerdded 1.2 milltir ysgafn sy’n cynnwys coetiroedd, pyllau a nentydd a golygfeydd o'r dyffryn. Yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o bobl, ond mae rhai arwynebau anwastad, sy'n gallu bod yn llithrig pan fyddant yn wlyb. Un giât mochyn a chyfres o risiau.
Taith Gerdded Dianc i Dwmbarlwm
Dringwch y grisiau i fynydd Twmbarlwm, a byddwch yn barod i gael ei syfrdanu! Mae'r daith gerdded 6.5 milltir hon yn ymdrech gwerth ei gwneud.